SIARC
Siarcod yn Ysbrydoli Gweithredu ac Ymchwil gyda Chymunedau

Diweddariad Gwobrau'r Loteri Genedlaethol:


Prosiect SIARC yw Prosiect y Flwyddyn Cymru!

Diolch o galon i bawb a bleidleisiodd drosom ni!

Beth yw Prosiect SIARC?

Mae amgylchedd forol Cymru’n gyforiog o fywyd; yn nyfnderoedd y dyfroedd llwyd ceir rhywogaethau anghyfarwydd o siarcod a morgathod (elasmobranchiaid) o bwysigrwydd cadwraethol.

Mae prosiect SIARC yn catalyddu cysylltiadau rhwng pysgotwyr, ymchwilwyr, cymunedau a’r llywodraeth i gydweithio a diogelu elasmobranchiaid a chefnogi adferiad gwyrdd yng Nghymru.

Dyma ein hamcanion:

Cyd-gynlluniwyd Prosiect SIARC gyda physgotwyr a'u cymdeithasau neu glybiau, trwy berthnasoedd gwaith cryfach ac amrywiol.

Llenwir bylchau data â blaenoriaeth ar sut mae elasmobranciaid yn defnyddio nodweddion gwarchodedig mewn dwy Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).

Dealltwriaeth o safbwyntiau amrywiol a ddefnyddir i oresgyn rhwystrau i gyfranogiad a chyflawni mwy o degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes cadwraeth forol yng Nghymru.

Mae plant ysgol o gefndiroedd amrywiol yn cyflawni deilliannau dysgu ar gynaliadwyedd a'r byd naturiol ac yn dangos hyder mewn technolegau digidol.

Mynediad demograffig ehangach i'r amgylchedd morol yng Nghymru gan ddefnyddio rhith-realiti, helfeydd am gasys wyau a lluniau tanddwr trwy Instant Wild.

Mae mwy o amrywiaeth o gymunedau yng Nghymru yn dysgu am yr amgylchedd morol, gan ddefnyddio elasmobranciaid fel y canolbwynt mewn cyfathrebu dwyieithog.

Ydy Cymru’n bwysig
i siarcod a morgathod?

Mae dyfroedd arfordirol Cymru’n gartref i amrywiaeth eang o rywogaethau morol, yn cynnwys 27 rhywogaeth o siarcod a morgathod (y cyfeirir atynt fel elasmobranchiaid). Mae elasmobranchiaid yn rhan ganolog o dreftadaeth naturiol Cymru, ac yn bwysig iawn o safbwynt cadwraeth a diwylliant. Er gwaethaf eu pwysigrwydd, ychydig sy’n hysbys ynglŷn â bioleg ac ecoleg y rhywogaethau yma.
Cyflwyna prosiect SIARC raglen ymchwil integredig i bysgotwyr i gasglu data am elasmobranchiaid a’u cynefinoedd cysylltiedig.

Dyma ein prif rywogaethau:

Maelgi

  • Enwau Saesneg: monkfish, angelshark, fiddle fish
  • Bioleg: Yn tyfu i 240 cm; yn geni 7-25 o rai bach
  • Statws: Mewn perygl mawr ar Restr Goch Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur (IUCN); rhan o un o’r teuluoedd o elasmobranchiaid sydd fwyaf dan fygythiad.
  • Ffeithiau diddorol: Defnyddiwyd maelgwn gan y Rhufeiniaid ar un adeg i orchuddio tariannau a dolenni cleddyfau am fod eu crwyn yn wydn iawn

Ci pigog

  • Enwau Saesneg: spurdog, spiny dogfish, rock salmon
  • Bioleg: Yn tyfu hyd at 125 cm; yn geni rhwng 1 – 32 o rai bach
  • Statws: Bregus ar Restr Goch Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur
  • Ffaith ddiddorol: Pigyn bach gwenwynig ar waelod ei asgell ddorsal a ddefnyddir i’w amddiffyn sy’n gyfrifol am enw’r rhywogaeth

Morgath ddu

  • Enw Saesneg: stingray, blue stingray
  • Bioleg: Yn tyfu hyd at 140 cm; yn geni rhwng 4 – 9 o rai bach
  • Statws: Bregus ar Restr Goch Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur
  • Ffaith ddiddorol: Yn hanesyddol, credai pobl yng Nghymru fod gan afu’r forgath ddu fuddion meddyginiaethol o’i ferwi

Ci glas

  • Enwau Saesneg: tope, school shark, snapper shark
  • Bioleg: Yn tyfu hyd at 195 cm; yn geni rhwng 6 – 52 o rai bach
  • Statws: Mewn perygl mawr ar Restr Goch Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur (IUCN)
  • Ffaith ddiddorol: Tuedda’r ci glas i symud o gwmpas mewn heigiau y gellir eu rhannu yn ôl maint a rhyw

Morgath drwynfain

  • Enw Saesneg: flapper skate, common skate
  • Bioleg: Yn tyfu i hyd at 285cm; yn dodwy casys wyau yn y gwanwyn/haf
  • Statws: Mewn Perygl Difrifol ar Restr Goch yr IUCN
  • Ffaith ddiddorol: Y Forgath drwynfain yw'r forgath fwyaf yn Ewrop ac mae gan ei hadenydd rychwant o hyd at 2 fetr!

Morgath las

  • Enwau Saesneg: blue skate, common skate
  • Bioleg: Yn tyfu i hyd at 150cm; yn dodwy casys wyau yn y gwanwyn/haf
  • Statws: Mewn Perygl Difrifol ar Restr Goch yr IUCN
  • Ffaith ddiddorol: Mae'r Forgath Las mewn gwirionedd yn frown, ac mae i’w gweld yn fwy deheuol na’r Forgath Drwynfain.

Ble mae prosiect SIARC yn gweithio?

Gweithreda prosiect SIARC ledled Cymru, ond bydd yn canolbwyntio ar ymgysylltu â’r gymuned ac ymchwil mewn dwy Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA): ACA ‘Pen Llŷn a’r Sarnau’ ac ACA ‘Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd’.

Pen Llŷn a'r Sarnau SAC (PLAS)

Wedi’i leoli yng ngogledd-orllewin Cymru, mae PLAS yn cynnwys 146,000 hectar o fôr, arfordir, aberoedd, lagŵnau, baeau, traethellau, a riffiau sy’n gartref i fywyd gwyllt amrywiol, yn cynnwys rhai sy’n unigryw i Gymru.

Carmarthen Bay and Estuaries SAC (CBAE)

Wedi’i leoli yn ne-orllewin Cymru mae BCAA yn cynnwys 66,000 hectar gan gwmpasu pedwar aber mawr. Mae gan y safle hwn nifer o nodweddion gwarchodedig, yn cynnwys gwastadeddau llaid, gwastadeddau tywod, cilfachau, baeau a dolydd heli’r Iwerydd.

Pwy sy’n cymryd rhan?

Prosiect amlddisgyblaethol yw prosiect SIARC, sy’n cyfuno gwyddoniaeth gymdeithasol a biolegol. Caiff ei arwain gan y Zoological Society of London (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth â chwe partner cyflawni ac 13 partner cydweithredol.

Rydym yn gweithio gyda chymunedau arfordirol ledled Cymru, gan gynnwys pysgotwyr masnachol a hamddenol, gwirfoddolwyr sy’n wyddonwyr dinesig, ysgolion cynradd, ac ymchwilwyr. Os hoffech chi gymryd rhan, darganfyddwch fwy ar ein tudalen ‘Cymerwch Ran’.

Partneriaid Cyflawni

Bangor-Uni

Mae Prifysgol Bangor yn cwblhau gwaith modeli hydrodynamig er mwyn helpu cynllunio a dehongli canlyniadau ar sail arolygon DNA (eDNA).

Blue-Abaco

Mae Blue Abacus yn datblygu offer Fideo Tanddwr Abwyd o Bell (BRUV) ar gyfer Prosiect SIARC gan arwain at ddadansoddi lluniau BRUV o PLAS.

MISS-logo-color

Mae Minorities in Shark Sciences yn helpu i ddarparu ein pecyn gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac yn cynorthwyo gyda threfnu a chyflwyno gweithdy rhannu sgiliau.

NWWT

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC) yn arwain rhai o fentrau gwyddoniaeth dinasyddion Prosiect SIARC, yn cynnwys trefnu grwpiau ymchwil archifol a helfa’r ymddiriedolaeth siarcod Shark Trust Great Eggcase Hunt ledled Cymru.

Shark-trust

Mae’r ymddiriedolaeth siarcod Shark Trust yn datblygu canllawiau adnabod elasmobranchiaid ac wyau ar gyfer Cymru, er mwyn cefnogi ymwneud pysgotwyr ac ymchwil gwyddoniaeth dinasyddion. Maent hefyd yn cefnogi cyflawni helfeydd Great Eggcase Hunt YNGC ledled Cymru.

Swansea-Uni

Mae Prifysgol Abertawe yn arwain o ran ymwneud ysgolion â Phrosiect SIARC, yn cynnwys datblygiad cyffrous argraffu 3D mewn ysgolion er mwyn dod â’n rhywogaethau allweddol i ddosbarthiadau ledled Cymru.

Partneriaid Cydweithredol

Bydd Prosiect Maelgi: Cymru  yn parhau i redeg ochr yn ochr â Phrosiect SIARC gan gyflwyno elfennau o’r prosiect sy’n ymwneud â maelgwn yn benodol.

Cyllidwyr:

Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

Get involved

There are a range of ways that you can get involved with Project SIARC from actively participating in events to aiding in historical research and inspiring future generations to engage with the marine environment.

SIARC

© 2022 – ZSL Zoological Society of London
contact-section