Ymgysylltu â’r gymuned

Mae’r amgylchedd morol yn chwarae rhan bwysig yn achos nifer o gymunedau ledled arfordir Cymru, ond nid yw’n hygyrch i bawb.

Drwy ddefnyddio ein rhywogaethau blaenllaw, (maelgwn, cŵn pigog, morgathod du, cŵn glas, morgathod glas a morgathod trwynfain) mae Prosiect SIARC yn gweithio gyda grwpiau ysgol amrywiol, gwyddonwyr ddinasyddion a grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli i ysbrydoli, ymgysylltu a chasglu gwybodaeth am elasmobranciaid yng Nghymru.

Ysgolion

Bwriad Prosiect SIARC yw ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddiogelu’r amgylchedd morol drwy gynnig amrywiaeth o sesiynau rhyngweithiol i ddisgyblion rhwng 7 – 13 oed.

Argraffu 3D mewn ysgolion

Rydym yn gweithio gydag ysgolion yn ardal ACA Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd gan gynnig hyfforddiant ym maes technoleg argraffu 3D gan roi’r cyfle i fyfyrwyr gynllunio a chreu modelau arddangos 3D ar sail ein rhywogaethau blaenllaw. Yna caiff yr arddangosfeydd hyn eu gosod yn y Tŷ Gwydr Mawr yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru.

Sesiynau ‘Cwrdd â’r Gwyddonwyr’ ar-lein

Rydym yn ymwneud yn uniongyrchol ag ysgolion cynradd ledled Cymru drwy gynnig sesiynau ‘Cwrdd â’r Gwyddonwyr’ drwy gyfrwng Microsoft Teams. Ymhellach, mae cynlluniau gwersi a phecynnau athrawon yn darparu cynnwys i ddathlu rhywogaethau blaenllaw Prosiect SIARC ac amgylchedd morol Cymru.

Prosiect Maelgi: e-lyfr dwyieithog Cymru

Rydym wedi datblygu e-lyfr ar gyfer disgyblion CA2 sy’n astudio treftadaeth Maelgwn yng Nghymru a’r modd yr ydym yn cydweithio er mwyn deall rhywogaethau sydd Dan Fygythiad Mawr.

ysgolion

Gwyddoniaeth Dinasyddion

Drwy gydweithio â gwyddonwyr ddinasyddion, gallwn gasglu gwybodaeth bellach ynglŷn ag elasmobranchiaid yng Nghymru wrth ysbrydoli gwirfoddolwyr i ymgysylltu â’u hamgylchedd morol lleol.

Rydym yn canolbwyntio ar dri gweithgaredd gwyddoniaeth dinasyddion:

Cofnodi presenoldeb wyau ar draethau lleol fel rhan o ‘Great Eggcase Hunts’ yr Ymddiriedolaeth Siarcod

Gan ddefnyddio’r offer angenrheidiol, bydd cymunedau ac ymarferwyr yn darganfod wyau elasmobranchiaid yn eu hardal leol mewn cyfres o ddigwyddiadau a gaiff eu cynnal gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Siarcod.

Helpwch ein hymchwilwyr drwy adnabod rhywogaethau gan ddefnyddio’r llwyfan Instant Wild

Gall unrhyw un sydd â mynediad i’r rhyngrwyd fod yn ddinesydd-wyddonydd drwy adolygu fideos tanddwr o arfordir Cymru, sydd i’w gweld ar Borth SIARC Instant Wild Project. Newydd i adnabod siarc? Dim problem – rydym wedi datblygu cwrs hyfforddi i’ch helpu i wybod y gwahaniaeth rhwng rhywogaethau.

Twrio yn yr archifau er mwyn casglu cofnodion hanesyddol am elasmobranchiaid

Caiff gwyddonwyr ddinasyddion eu hyfforddi i wneud gwaith ymchwil archifol a thwrio drwy archifau lleol, y llyfrgell, neu amgueddfeydd am gofnodion yn ymwneud ag elasmobranchiaid, gan helpu i ddatgloi pwysigrwydd hanesyddol elasmobranchiaid a’u treftadaeth yng Nghymru.

gwyddoniaeth-dinasyddion

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae angen dybryd i gynnig mwy o gyfleoedd i ymwneud â chadwraeth forol. Drwy gyfrwng ymchwil yn cynnwys cyfweliadau a thrafodaethau grwpiau ffocws, rydym yn gweithio at adnabod cymunedau sy’n ddiffygiol o safbwynt gwarchodaeth forol, y rhwystrau i ymgysylltiad a mesurau er mwyn sicrhau amrywiaeth ehangach a chynhwysedd ledled Cymru. Caiff yr hyn a ddysgir ei rannu gyda’n partneriaid a’i ymgorffori o fewn ein rhaglenni gwyddoniaeth dinasyddion.

Caiff rhywogaethau blaenllaw Prosiect SIARC eu defnyddio hefyd i ddatblygu gwerthfawrogiad newydd o’r amgylchedd tanddwr yng Nghymru, gan hybu mynediad a galluogi ymgysylltiad â grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.

amrywiaeth-a-chynhwysedd
Prosiect amlddisgyblaethol yw Prosiect SIARC sy’n gweithio gyda physgotwyr, gwyddonwyr ddinasyddion, ymchwilwyr, cymunedau lleol a’r llywodraeth i ddiogelu siarcod a morgathod a chefnogi adferiad gwyrdd yng Nghymru.

Cymryd Rhan

Mae amrywiaeth o ffyrdd i chi allu cymryd rhan yn Prosiect SIARC o gymryd rhan weithredol mewn digwyddiadau i helpu gydag ymchwil hanesyddol ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ymgysylltu â’r amgylchedd morol.

SIARC

© 2022 – ZSL Zoological Society of London
contact-section