Prin yw’r wybodaeth am lawer o fioleg ac ecoleg y 27 rhywogaeth o elasmobranchiaid sy’n bresennol yn nyfroedd Cymru. Cafwyd gwelliant o safbwynt deall y rhywogaethau sydd wedi’u targedu’n fasnachol, ond prin iawn yw’r data o hyd ynglŷn â’r 18 rhywogaeth arall, yn cynnwys 10 sy’n cael eu cynnwys yn Adran 7 rhestr rhywogaethau Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016.
Heb ddata’n ymwneud â dosbarthiad, digonedd, tymoroldeb, nodweddion hanes bywyd a chynefinoedd cysylltiedig, anodd iawn fydd diogelu’r rhywogaethau yma.
Olrhain Cŵn Glas
Gan gydweithio â physgotwyr lleol, mae Prosiect SIARC wedi dechrau prosiect ymchwil newydd i ddeall mwy am symudiadau Cŵn Glas – rhywogaeth sydd mewn perygl – yn Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau (ACA PLAS). Rydym wedi gosod rhwydwaith newydd o angorfeydd gwyddonol+ yn ACA PLAS a fydd yn cofnodi symudiadau 30 o gŵn glas, drwy gyfrwng tagiau acwstig, dros y 12-18 mis nesaf. Nod yr ymchwil hwn yw rhoi dealltwriaeth i ni o’r prif ardaloedd a chynefinoedd a ddefnyddir gan gŵn glas o fewn yr ACA.
Mae’r broses dagio’n digwydd mewn ffordd sy’n sicrhau cyn lleied o effaith â phosibl ar y siarc ac fe’i gwneir gan wyddonydd hyfforddedig o dan drwydded*.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran Cwestiynau Cyffredin isod, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon eraill, anfonwch e-bost atom ar siarc@zsl.org
+Cafodd angorfeydd eu gosod gyda chaniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru ac o dan drwydded gan Ystâd y Goron
* Cynhelir y broses dagio gan berson cymwys, awdurdodedig a thrwyddedig o dan Drwydded Prosiect yn unol â’r Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol), a awdurdodwyd gan y Swyddfa Gartref.
Rydym angen eich help i gynorthwyo gyda'r ymchwil:
Ydych chi wedi dal ci glas? Edrychwch am dag adnabod ac adroddwch y rhif i siarc@zsl.org ynghyd â’r dyddiad, amser, a lleoliad (lledred / hydred).
Os yw’n ddiogel i chi wneud, tynnwch lun o’r safle’r tag acwstig fel y gallwn edrych i weld sut mae croen y siarcod yn gwella ar ôl cael ei dagio.
Dilynwch y canllawiau arfer gorau i drin a rhyddhau’r siarc yn ddiogel ac, os yw’n bosibl, osgoi ei dynnu i’r cwch.
Digwyddiadau Dyrannu
Mewn cydweithrediad â’r Rhaglen Ymchwil i Forfilod wedi Tirio (CSIP), Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth ac Ysbyty Milfeddygol Coleg Prifysgol Dulyn (UCDVH), llwyddodd Prosiect SIARC i gynnal dau set o archwiliadau #CSIofTheSea ar bum Maelgi, yng Nghymru ac Iwerddon, i gasglu gwybodaeth fiolegol hanfodol am y rhywogaethau hyn sydd mewn perygl difrifol.
Er yn hynod anghyffredin, gall Maelgwn fynd yn sownd a marw ar draethau ar hyd yr arfordir. Gall archwiliadau post-mortem a dadansoddiad o samplau ddarparu data hanfodol yn ymwneud ag achos marwolaeth, iechyd yr unigolyn (yn cynnwys afiechyd a llygredd), diet, patrymau atgenhedlu, strwythur poblogaeth yn ogystal â chysylltedd â phoblogaethau eraill ledled Dwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir.
Rhoddodd y digwyddiadau dyrannu gyfle anhygoel i gryfhau ac ehangu’r cydweithio presennol yng Nghymru ac Iwerddon, a thynnodd sylw at y nifer helaeth o sefydliadau sy’n gweithio tuag at warchod Maelgwn a rhywogaethau eraill o siarcod ar draws Ecoranbarth y Moroedd Celtaidd. Gyda’n gilydd, rydym yn gobeithio meithrin y gallu i gydweithio er mwyn gwarchod elasmobranciaid ar draws y rhanbarth.
Edrychwch ar ein blog newydd i ddarganfod mwy am yr archwiliadau #CSIofTheSea, a Gwyliwch ein fideo isod, i gael gwybod mwy am y gwaith sy’n digwydd yn Iwerddon.
Grŵp Ymchwil
Un o amcanion Prosiect SIARC yw galluogi partneriaethau newydd ac ymchwil cydweithredol drwy ddod â gwyddonwyr elasmobranciaid a chyrff anllywodraethol ledled Ecoranbarth y Moroedd Celtaidd at ei gilydd. Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi datblygu Grŵp Ymchwil Prosiect SIARC, i gyfarfod bob chwarter, er mwyn rhannu darganfyddiadau, arbenigedd, profiad ac ymchwil cyfredol rhwng sefydliadau.
Cysylltwch
Os ydych yn ymchwilydd neu’n sefydliad sy’n gweithio ar elasmobranchiaid yng Nghymru, cysylltwch â ni ar SIARC@zsl.org i ddysgu mwy.
siarc@zsl.org