Cwrdd â'r Tîm

Sefylla Prosiect SIARC

Mae’r datganiad sefyllfa a ganlyn yn adlewyrchu sefyllfa saith aelod o staff y prosiect sy’n gweithio gyda physgotwyr ledled Cymru a gyda chymunedau lleol yng Ngogledd Cymru.Daw’r staff o’r sefydliadau partner arweiniol Cymdeithas Sŵoleg Llundain a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a’r partneriaid cyflawni, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Darllen mwy...

Drwy gydol ein bywydau a’n gwaith, rydym wedi gweld a phrofi rhai o’r ffyrdd y mae anghyfiawnder, diffyg cynrychiolaeth o grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio’n draddodiadol a dynamig pŵer anwastad yn effeithio ar fynediad i gyfleoedd i bobl brofi byd natur. Rydym yn cydnabod nad yw ein profiadau a’n lleisiau yn gwbl gynrychioliadol o gymunedau sy’n byw yng Nghymru a thu hwnt. Ein dymuniad yw y gallwn, trwy gydweithio a chyd-ddatblygu, helpu i oresgyn anghyfiawnderau’r gorffennol a chreu newid ar gyfer dyfodol y sector cadwraeth a bywydau pobl sy’n byw yng Nghymru. Rydym yn ymroddedig i ysgogi’r newid hwn yn ein gwaith, a ategir gan ffocws gwaith penodol ar amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant ac ymrwymiad tîm i gynyddu ein dealltwriaeth o bynciau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn cydnabod y cyfyngiadau yn ein dealltwriaeth o rai o’r materion yr ydym yn gweithio i fynd i’r afael â nhw fel Prosiect SIARC ac yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio ar gyfer newid. O’r saith aelod o staff y mae’r datganiad hwn yn eu cynrychioli, mae pump ohonom yn fenywod a dau ohonom yn ddynion; rydym o ethnigrwydd Cymreig a Seisnig gydag unigolion â threftadaeth Gymreig, Seisnig, Albanaidd ac Americanaidd brodorol. Mae gennym oedran cymedrig o 37 (ystod: 28–48). Rhyngom rydym wedi dod i oed mewn lleoliadau gwledig a threfol yn y DU a thramor. Fel rhan o’n tîm, mae aelodau sy’n rhan o’r gymuned LHDTCRhA+ ac aelodau sy’n heterorywiol. O’r saith aelod o staff a gynrychiolir yma, nid oes gan unrhyw aelod o’r tîm unrhyw anableddau neu amhariadau corfforol.

Mae dau ohonom yn siaradwyr Cymraeg rhugl a phump ohonom yn ddysgwyr Cymraeg ac, o fewn y tîm, rydym hefyd yn siarad pum iaith arall yn ogystal â Chymraeg a Saesneg. Ar gyfartaledd, rydym wedi treulio 47% o’n bywydau rhyngom yn byw yng Nghymru, ac mae ein profiadau o fyw a gweithio yng Nghymru wedi dylanwadu’n sylweddol ar ein rhagolygon a’n dulliau o weithio yn y sector amgylcheddol. I bob un ohonom, mae’r môr a’r amgylchedd morol wedi chwarae rhan bwysig drwy gydol ein bywydau, er nad ydym ni i gyd wedi dod i oed ger y môr ac mae datblygiad y cysylltiad hwnnw’n amrywio o ddechrau yn ystod plentyndod i ers dod yn oedolyn. Mae’r cysylltiad hwn yn dylanwadu’n gryf ar y dewisiadau a wnawn heddiw, gan gynnwys ein hangerdd dros ddiogelu a dathlu amgylchedd morol Cymru, a gweithio tuag at fynediad teg i fannau glas i bawb rydym yn gweithio gyda nhw.

Mae’r tîm i gyd wedi cael y fraint o deithio’n rhyngwladol ar draws chwe chyfandir o’r byd rhyngom, gan gynnwys teithio ar gyfer ymchwil, gwyddor cadwraeth, hamdden a newidiadau bywyd. Mae’r cyfleoedd hyn wedi rhoi’r cyfle i ni brofi a dysgu o ddiwylliannau sy’n wahanol i’n diwylliant ni ein hunain a datblygu sgiliau gwahanol ar hyd y blynyddoedd. Mae ein teithiau wedi amlygu lefelau is o ymwybyddiaeth o’r bywyd gwyllt a’r cynefinoedd sydd i’w cael yn yr amgylchedd morol a dŵr croyw yn y DU. Mae’r profiadau hyn wedi atgyfnerthu ymrwymiad a rennir i eirioli dros wella mynediad a chyfleoedd i brofi byd natur yng Nghymru, heb fod angen teithio dramor. O fewn y tîm mae gennym ni chwe gradd BSc, chwe gradd MSc, un radd MA ac un ddoethuriaeth mewn pynciau amgylcheddol. Wrth ddod i oed, rydym wedi dod dan ddylanwad cefndiroedd ein teuluoedd, sy’n cynnwys gweithio yn y sectorau canlynol: amaethyddiaeth, bwyd môr, gweinyddiaeth ac adnoddau dynol, amddiffyn milwrol, twristiaeth, gofal cymdeithasol, iechyd a llesiant, mwyngloddio, ymchwil fiolegol, cyllid, gweithgynhyrchu, addysg a’r cyfryngau. Rhyngom rydym wedi gweithio yn y sectorau lletygarwch, cadwraeth yr amgylchedd a bywyd gwyllt, twristiaeth a hamdden, chwaraeon, gofal anifeiliaid, y diwydiannau creadigol, ymchwil, adeiladu, y cyfryngau, gofal iechyd, manwerthu, digwyddiadau, ffermio, gweithgynhyrchu, plymio a’r gwasanaeth sifil, ac wedi gwirfoddoli i sefydliadau sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd a chadwraeth bywyd gwyllt, gofal anifeiliaid, ymchwil wyddonol, cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed, a chymorth i ffoaduriaid, mudwyr a cheiswyr lloches.

Rydym yn cydnabod y fraint y mae ein cefndiroedd wedi’i rhoi inni, fel yr amlinellir yma, a gwyddom fel tîm ein bod yn parhau i fod â llawer i’w ddysgu. 

Joanna Barker

Uwch-reolwr Prosiect SIARC

Pob pecyn gwaith

Mae Jo yn arwain y gwaith o reoli prosiectau ac mae’n ymwneud â phob pecyn gwaith. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar ddylunio strategol, dehongli canlyniadau ac mae’n sicrhau bod allbynnau’n llywio cadwraeth a’u bod yn cael eu bwydo’n ôl i’r gymuned.

Ben Wray

Rheolwr Prosiect SIARC CNC

Pob pecyn gwaith

Mae Ben yn darparu cymorth cyd-reoli i Arweinydd y Prosiect, gan ddarparu mewnbwn a chyngor arbenigol ar weithgareddau dylunio prosiect a phecyn gwaith o safbwynt ecolegol, polisi, deddfwriaethol a thrwyddedu. Mae gan Ben brofiad sylweddol o reoli prosiectau cadwraeth yng Nghymru ac mae’n cynghori ar weithgareddau a datblygiadau morol sy’n benodol gysylltiedig â lliniaru effeithiau ar dderbynyddion ecoleg y môr a nodweddion cynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig.

Jake Davies

Arbenigwr Technegol Prosiect SIARC

Pob pecyn gwaith

Mae Jake yn cefnogi’r gwaith o reoli’r prosiect ac yn ymwneud â’r holl becynnau gwaith. Mae’n canolbwyntio ar ymgysylltu â physgotwyr, BRUVs ac eDNA

Sarah Davies

Cydlynydd Prosiect SIARC

Pob pecyn gwaith

Mae Sarah yn ymwneud â sawl pecyn gwaith, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â physgotwyr, arolygon eDNA ac ymgysylltu ag ysgolion

Hannah Lee

Swyddog Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymunedol

Pob pecyn gwaith

Mae Hannah yn gweithio ar bob pecyn gwaith ac yn cefnogi’r gwersi a ddaw yn sgil y prosiect mewn perthynas â rhoi arferion cadwraeth tecach ar waith a gweithio gyda chymunedau lleol i gyd-ddatblygu gweithgareddau i fynd i’r afael â’r hyn sy’n rhwystro pobl rhag cymryd rhan mewn cadwraeth forol yng Nghymru.

Surshti Patel

Arbenigwr Technegol Prosiect SIARC

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; Ymgysylltu â Physgotwyr

Mae Surshti yn goruchwylio ac yn darparu mewnbwn technegol i gyflawni ein gwaith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gwaith gyda chymunedau ac ymgysylltu â physgotwyr. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn sicrhau gwyddoniaeth ac arferion cadwraeth cynhwysol a moesegol.

Kate Moses

Rheolwr Prosiect ‘Instant Wild’

Gwyddoniaeth y Dinesydd

Kate sy’n rheoli Instant Wild a bydd yn canolbwyntio ar gynyddu dealltwriaeth o ran pwy sy’n defnyddio’r platfform a sut y gallwn gyrraedd pobl nad ydynt yn cymryd rhan ar hyn o bryd.

Nia Haf Jones

Rheolwr Moroedd Byw

Amrywiaeth a Chynhwysiant; Gwyddoniaeth y Dinesydd; Rheoli Prosiect

Mae Nia yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Great Eggcase Hunt ac yn canolbwyntio ar ddeall yr hyn sy’n rhwystro pobl rhag cymryd rhan er mwyn gwella tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes cadwraeth forol yng Nghymru.

Dawn Thomas

Swyddog Moroedd Byw

Amrywiaeth a Chynhwysiant; Gwyddoniaeth y Dinesydd

Mae Dawn yn cydlynu a chyflawni digwyddiadau’r Great Eggcase Hunt a hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr.

David Curnick

Ymchwilydd Ôl-ddoethurol Prosiect SIARC

eDNA; dadansoddi data; grŵp ymchwil; rheoli prosiect

Mae David yn darparu cymorth technegol ac yn goruchwylio pecynnau gwaith arolygon eDNA a dadansoddi data

Nick Dunn

Goruchwylydd Ôl-ddoethurol Prosiect SIARC

eDNA; dadansoddi data; grŵp ymchwil; rheoli prosiect

Nick sy’n arwain ar ddyluniad a gweithrediad yr arolwg eDNA, a’i ddadansoddi

Sophie Ward

Cymrawd Ymchwil ym maes Cefnforeg Ffisegol

eDNA; dadansoddi data; grŵp ymchwil

Mae Sophie yn wyddonydd ymchwil ac yn fodelydd cefnfor sy’n mapio achosion o weld elasmobranciaid a’u symudiadau hysbys gyda setiau data sy’n disgrifio’r amgylchedd arfordirol ffisegol.

Pete Robins

Uwch-ddarlithydd ym maes Cefnforeg Ffisegol

eDNA; dadansoddi data; grŵp ymchwil

Mae Pete yn fodelydd cefnfor a fydd yn helpu Sophie gyda’r modelu hydrodynamig a gynlluniwyd ar gyfer dehongli canlyniadau’r arolwg eDNA.

Dimitris Pletsas

Swyddog Allgymorth Addysg Prosiect SIARC

Ymgysylltu ag Ysgolion

Mae Dimitris yn darparu cymorth technolegol drwy osod argraffwyr 3D i ysgolion Hyrwyddwr SIARC, gan gynnwys dylunio CAD a sesiynau sefydlu argraffu 3D

Cat Gordon

Uwch-swyddog Cadwraeth

Gwyddoniaeth y Dinesydd

Mae Cat wedi datblygu adnoddau i’w defnyddio ar gyfer ymgysylltu â physgotwyr a gweithgareddau gwyddoniaeth y dinesydd o fewn ysgolion a’r gymuned, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o gynnal Great Eggcase Hunts yng Nghymru.

Harriet Allen

Gwyddoniaeth y Dinesydd

Mae Harriet yn helpu i redeg y Great Eggcase Hunt, gan gefnogi’r broses o gyflwyno a datblygu’r prosiect yng Nghymru.

Jason Meeuwig

BRUVS Surveys

Dyluniodd Jason y Systemau Fideo Tanddwr o Bell ag Abwyd (BRUVS) Blue Abacus a ddefnyddir yn y gwaith maes ac mae’n cefnogi’r tîm gyda defnyddio BRUVS yn y maes.

Jessica Meeuwig

BRUVS Surveys

Mae Jessica yn cefnogi’r tîm BRUVS o ran llunio arolygon a dadansoddi delweddau yn ogystal â chyfrannu at wyddoniaeth dinasyddion drwy borth Instant Wild.

Cymryd Rhan

Mae amrywiaeth o ffyrdd i chi allu cymryd rhan yn Prosiect SIARC o gymryd rhan weithredol mewn digwyddiadau i helpu gydag ymchwil hanesyddol ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ymgysylltu â’r amgylchedd morol.

SIARC

© 2022 – ZSL Zoological Society of London
contact-section
Skip to content