Pwysigrwydd pysgotwyr

Mae gan bysgotwyr hamdden a masnachol yng Nghymru wybodaeth fanwl am eu moroedd, na all gwyddonwyr na chyrff anllywodraethol ei dysgu yn yr un modd. Gall datblygu perthynas dda ac offer addas gyda physgotwyr eu galluogi i rannu data manwl ynglŷn â’r rhywogaethau y dônt ar eu traws. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau gwell dealltwriaeth a gwella cadwraeth elasmobranchiaid yng Nghymru.

Gweithia Prosiect SIARC yn agos gyda physgotwyr o bob sector ledled Cymru, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd a’r berthnasau a ddatblygwyd drwy Brosiect Maelgi: Cymru. Mae pysgotwyr yng Nghymru yn stiwardiaid cadwraeth elasmobranchiaid, gan ddarparu data hanfodol yn ymwneud â phrofiadau cyfredol a hanesyddol a chydweithio ar waith ymchwil sy’n integreiddio pysgotwyr.

Sut ydym yn gweithio gyda physgotwyr?

Cyfweliadau

Rydym yn cyfarfod â physgotwyr hamdden, masnachol a chychod siarter ledled Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth ynglŷn ag elasmobranchiaid, arferion pysgota ac allbynnau Prosiect SIARC.
Cyflawnir hyn drwy gydweithio’n agos â Ffederasiwn Pysgotwyr Môr Cymru a Chymdeithas Pysgotwyr Cymru. Caiff pob pysgotwr sy’n ymwneud â’r Prosiect eu diweddaru’n gyson ynglŷn â gweithgareddau ac allbynnau Prosiect SIARC neu Brosiect Maelgi: Cymru.

Ymchwil

Mae ymchwil integredig gyda physgotwyr yn rhan hanfodol o Brosiect SIARC, gyda rhai pysgotwyr yn ymwneud â chasglu data am elasmobranchiaid drwy arolygon Fideo Tanddwr Abwyd o Bell (BRUV) neu samplu mwcws.

Arall

Bydd Prosiect SIARC yn dangos sut y gall gwybodaeth pysgotwyr helpu i greu cronfa dystiolaeth a galluogi gwneud penderfyniadau mwy gwybodus yng nghyswllt cadwraeth elasmobranchiaid yng Nghymru.

Prosiect amlddisgyblaethol yw Prosiect SIARC sy’n gweithio gyda physgotwyr, gwyddonwyr ddinasyddion, ymchwilwyr, cymunedau lleol a’r llywodraeth i ddiogelu siarcod a morgathod a chefnogi adferiad gwyrdd yng Nghymru.

Cymryd Rhan

Mae amrywiaeth o ffyrdd i chi allu cymryd rhan yn Prosiect SIARC o gymryd rhan weithredol mewn digwyddiadau i helpu gydag ymchwil hanesyddol ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ymgysylltu â’r amgylchedd morol.

SIARC

© 2022 – ZSL Zoological Society of London
contact-section