Cymryd Rhan

Mae amrywiaeth o ffyrdd i chi allu cymryd rhan ym Mhrosiect SIARC o gymryd rhan weithredol mewn digwyddiadau i helpu i adnabod bywyd morol tanddwr o gysur eich cartref eich hun ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ymgysylltu â’r amgylchedd morol.

 

Digwyddiadau i ddod

Môr a Thonnau Pwllheli: Dathlu'r gymuned, yr arfordir a'r moroedd o amgylch Pwllheli

Dewch i ddathlu bywyd gwyllt arfordirol a threftadaeth ddiwylliannol Pwllheli yn Neuadd Dwyfor gyda Phrosiect SIARC, Ffrindiau Pwllheli, gwasanaeth llyfrgell Gwynedd, cynghorwyr lleol, staff o dîm Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau a mwy!

Mae Project SIARC ar Instant Wild!

Gall unrhyw un sydd â mynediad i’r rhyngrwyd fod yn ddinesydd-wyddonydd drwy adolygu fideos tanddwr o arfordir Cymru, sydd i’w gweld ar Borth SIARC Instant Wild Project. Newydd i adnabod siarc? Dim problem – rydym wedi datblygu cwrs hyfforddi i’ch helpu i wybod y gwahaniaeth rhwng rhywogaethau.

Helfa Fawr y Casys Wyau

Mae casys wyau (a elwir hefyd yn byrsau’r fôr-forwyn) rhai siarcod a morgathod i’w gweld yn aml wrth gerdded ar hyd eich traeth lleol. Mae casys wyau’n amrywio o un rhywogaeth i’r llall felly drwy ddysgu’r gwahanol siapiau, meintiau a nodweddion, gallwch ganfod i ba fath o siarc neu forgath mae’n perthyn.

Dewch i ymuno â ni i archwilio’r lan a mynd ar drywydd casys wyau siarcod ar hyd arfordir trawiadol Cymru. Bydd digwyddiadau Helfa Fawr y Casys Wyau yn digwydd drwy gydol y flwyddyn gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. I gymryd rhan drwy fynd i ddigwyddiad neu i gael gwybod mwy am Helfa Fawr Casys Wyau’r Shark Trust, dilynwch y dolenni isod.

Cael y diweddaraf gan Brosiect SIARC.

Ymunwch â rhwydwaith ein e-gylchlythyr i gael diweddariadau ar weithgareddau Prosiect SIARC a chyfleoedd i gymryd rhan.

Cysylltwch

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan ym Mhrosiect SIARC, cysylltwch â ni:

    I'm also interested in

    Please check this box if you are happy for your personal information to be shared with relevant Project SIARC Partner and Collaborator organisations. These organisations will only contact you about upcoming opportunities to get involved with Project SIARC, based on the information provided above

    Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

    E-bostiwch ni ar

    Cymryd Rhan

    Mae amrywiaeth o ffyrdd i chi allu cymryd rhan yn Prosiect SIARC o gymryd rhan weithredol mewn digwyddiadau i helpu gydag ymchwil hanesyddol ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ymgysylltu â’r amgylchedd morol.

    SIARC

    © 2022 – ZSL Zoological Society of London
    contact-section
    Skip to content