Ein Polisïau a'n Gweithdrefnau

Mae pob aelod o staff Prosiect SIARC, partneriaid cyflenwi, Cysylltiedig a chydweithredwyr yn glynu wrth y polisïau a’r gweithdrefnau canlynol 

Cod Ymddygiad

Er mwyn sicrhau y gall pawb fwynhau ein gweithgareddau, digwyddiadau a chyfarfodydd a theimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus yn cymryd rhan, gofynnwn i bawb sy’n bresennol gydymffurfio â Chod Ymddygiad Prosiect SIARC, y gellir ei weld yma

Mecanwaith Adborth a Chwynion

Mae’n bwysig i Brosiect SIARC ein bod yn cymryd atebolrwydd o ddifrif ac rydym yn awyddus i glywed eich adborth. Mae’n hanfodol bod y bobl neu’r sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda hwy yn gallu rhoi adborth yn ddiogel, yn gyflym ac yn agored, neu godi pryderon o unrhyw fath a allai ddigwydd drwy gydol Prosiect SIARC neu Brosiect Maelgi: Cymru (sy’n parhau i fod yn rhan o Brosiect SIARC). Dyna pam mae gennym fecanwaith adborth a chwynion hygyrch ar waith, sy’n cael ei oruchwylio gan Hannah Lee-Williams, sef Swyddog Dynodedig Prosiect SIARC.   

Ar gyfer pwy mae’r mecanwaith hwn?    

Unrhyw aelod o’r gymuned, aelod o’r cyhoedd, unigolyn sy’n cymryd rhan yn y prosiect neu sefydliad rydym yn gweithio gyda hwy. Diogelir hunaniaeth unigolion a gellir mynegi pryderon yn ddienw.   

Sut allaf i gyflwyno adborth neu gŵyn?  

Wyneb yn wyneb, gallwch siarad yn uniongyrchol â’r canlynol:   

  • Unrhyw aelod o staff Prosiect SIARC yn ystod digwyddiadau, cyfarfodydd neu ymweliadau â’r gymuned   
  • Partner, person ymgysylltiedig, cydweithredwr neu gontractwr Prosiect SIARC a fydd yn trosglwyddo eich adborth 

Dros y ffôn, drwy neges destun neu drwy neges WhatsApp (ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm):    

  • Cysylltwch unrhyw aelod o staff Prosiect SIARC ddych chi’n gweithio gydag 
  • Cysylltwch yn Bartner, Cysylltiedig, Cydweithredwr neu Gontractwr Prosiect SIARC a fydd yn trosglwyddo eich adborth 
  • Cysylltwch yn uniongyrchol â Swyddog Dynodedig Prosiect SIARC: 07999652888   

Drwy e-bost:  

  • Cysylltwch unrhyw aelod o staff Prosiect SIARC ddych chi’n gweithio gydag 
  • Cysylltwch yn Bartner, Cysylltiedig, Cydweithredwr neu Gontractwr Prosiect SIARC a fydd yn trosglwyddo eich adborth 
  • Cysylltwch yn uniongyrchol â Swyddog Dynodedig Prosiect SIARC: SIARCfeedback@zsl.org   

Ar ffurf ysgrifenedig: drwy lenwi ein ffurflen ‘cysylltwch â ni’ ar-lein, neu ein ffurflen adborth ddienw wyneb yn wyneb (sydd ar gael yn ystod ein gweithgareddau, digwyddiadau a chyfarfodydd).   

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cyflwyno cwyn? 

Ymdrinnir ag unrhyw adborth a phryderon drwy broses glir a thryloyw, gyda’r nod o sicrhau datrysiad teg. Isod ceir crynodeb o’r camau rydym ni’n eu cymryd:  

 

Mae modd gweld y mecanwaith adborth a chwynion llawn, ynghyd â chwestiynau cyffredin Prosiect SIARC, yma

policies_and_procedures

Get involved

There are a range of ways that you can get involved with Project SIARC from actively participating in events to helping ID underwater marine life from the comfort of your home, and inspiring future generations to engage with the marine environment.

Useful Links

SIARC

© 2022 – ZSL Zoological Society of London
contact-section
Skip to content