Mae’r amgylchedd morol yn chwarae rhan bwysig yn achos nifer o gymunedau ledled arfordir Cymru, ond nid yw’n hygyrch i bawb.
Drwy ddefnyddio ein rhywogaethau blaenllaw, (maelgwn, cŵn pigog, morgathod du, cŵn glas, morgathod glas a morgathod trwynfain) mae Prosiect SIARC yn gweithio gyda grwpiau ysgol amrywiol, gwyddonwyr ddinasyddion a grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli i ysbrydoli, ymgysylltu a chasglu gwybodaeth am elasmobranciaid yng Nghymru.
Ysgolion
Bwriad Prosiect SIARC yw ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddiogelu’r amgylchedd morol drwy gynnig amrywiaeth o sesiynau rhyngweithiol i ddisgyblion rhwng 7 – 13 oed.
Gwyddoniaeth Dinasyddion
Drwy gydweithio â gwyddonwyr ddinasyddion, gallwn gasglu gwybodaeth bellach ynglŷn ag elasmobranchiaid yng Nghymru wrth ysbrydoli gwirfoddolwyr i ymgysylltu â’u hamgylchedd morol lleol.
Rydym yn canolbwyntio ar dri gweithgaredd gwyddoniaeth dinasyddion:
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae angen dybryd i gynnig mwy o gyfleoedd i ymwneud â chadwraeth forol. Drwy gyfrwng ymchwil yn cynnwys cyfweliadau a thrafodaethau grwpiau ffocws, rydym yn gweithio at adnabod cymunedau sy’n ddiffygiol o safbwynt gwarchodaeth forol, y rhwystrau i ymgysylltiad a mesurau er mwyn sicrhau amrywiaeth ehangach a chynhwysedd ledled Cymru. Rydym yn rhannu’r hyn a ddysgwyd gyda’n partneriaid, ac yn gweithredu newidiadau yn ein gwaith gyda physgotwyr a rhaglenni gwyddoniaeth dinasyddion
Caiff rhywogaethau blaenllaw Prosiect SIARC eu defnyddio hefyd i ddatblygu gwerthfawrogiad newydd o’r amgylchedd tanddwr yng Nghymru, gan hybu mynediad a galluogi ymgysylltiad â grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.
Mae ymgysylltu â phobl o gefndiroedd amrywiol yn gwella arferion cadwraeth ac o fudd i ymchwil academaidd (Smith ac eraill, 2017; Resnik ac eraill, 2015). Mae Prosiect SIARC yn cydnabod bod yn rhaid gwneud mwy i amrywio cyfleoedd, drwy ddeall gwahanol gynulleidfaoedd (hunaniaethau), gwerthoedd ac anghenion i apelio at ddemograffeg ehangach o bobl a chefnogi cynulleidfaoedd i ymgysylltu â chadwraeth forol yng Nghymru.
Mae adolygiad o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Prosiect SIARC 2021-2023 yn cyfosod gwaith a dysgu o Brosiect SIARC rhwng 2021 a 2023, ymchwil yn y gymuned, profiadau partneriaid prosiect o fewn a thu hwnt i Brosiect SIARC, a chyngor gan ymarferwyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Rhwng 2023 a 2026, bydd Prosiect SIARC yn gweithio i gyflawni Prosiect SIARC: cynllun gweithredu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio’n benodol ar gefnogi dull y prosiect o weithio gyda phartneriaid cymunedol lleol (amcanion 3 a 5 Prosiect SIARC) a phartneriaid pysgotwyr (amcanion 1 a 2 Prosiect SIARC) yng Ngogledd Cymru. Fel prosiect, byddwn hefyd yn gweithio’n frwd i gyfnewid yr hyn a ddysgwyd o gyflwyno’r cynllun gweithredu hwn i feysydd eraill o’n gwaith. Cynigir llunio adroddiad cynnydd canol tymor ar gyfer 2025 ar y cynnydd tuag at gyrraedd ein targedau, a chynhelir adolygiad o’r cynllun gweithredu hwn yn y cyfnod hyd at ddiwedd cyfnod ariannu presennol y prosiect ym mis Mawrth 2026 er mwyn llywio syniadau strategol pellach ar gyfer cam nesaf y prosiect.